Rwy'n gweithio ag arweinwyr a rheolwyr i'w helpu nhw i ganfod ymdeimlad newydd o ysbrydoliaeth a datblygu hunanymwybyddiaeth a hunanhyder.
Yn fy holl hyfforddiant a darpariaeth rwy'n ymgysylltu fel cyfranogwr gweithredol gan ddod â difyrrwch, egni, creadigedd a dealltwriaeth i bob sgwrs/sesiwn.
Rwy'n dod â thimau a sefydliadau ynghyd, gan herio, cefnogi ac arwain er mwyn creu diwylliant lle gall pobl lwyddo.
Byddaf yn eich herio mewn ffordd gefnogol er mwyn adnabod eich problemau craidd, a dim ond wedyn y byddaf yn datblygu rhaglen bersonol, unigryw gyda diben a chanlyniad clir.
Rwy'n canolbwyntio fy egni ar fynd i'r afael â'r problemau sy'n rhwystro rhywun rhag llwyddo. Yn ddi-ofn yn fy null, rwy'n sicrhau bod unigolion a thimau'n cael y sgyrsiau heriol ac anodd sydd eu hangen i ddatrys eu heriau busnes ac arwain.
Fel y dengys yn yr astudiaethau achos, mae fy arbenigedd yn ffitio yn natblygiad sefydliadau, timau ac unigolion ar lefelau uwch arweinyddiaeth a rheolaeth ganol.
Rwy'n hynod falch o ba mor rheolaidd mae pobl yn fy nghyfeirio at eu cydweithwyr. Os oes gennych ddiddordeb ac yr hoffech siarad â chleient blaenorol neu bresennol, cysylltwch â mi ar:
Sylfaenydd Lloyd~Williams & Associates ydw i, busnes a sefydlais gyda'r nod clir o wneud busnesau yn fwy llwyddiannus drwy ddatblygu pobl. Er fy mod yn ymwneud yn bersonol â phob cleient, mae gennyf hefyd rwydwaith o weithwyr proffesiynol profiadol a dibynadwy y gallaf alw arnynt yn ôl yr angen.
Yr hyn sy'n gwneud fy null yn wahanol yw fy arddull dymunol a'r gallu i wneud i eraill feddwl yn wahanol. Rwy'n fodlon mynd i'r afael â materion anodd ac i ymdrin â meysydd y mae eraill yn eu hofni, ond byddaf wastad yn sicrhau bod fy nghefnogaeth yn gyfartal â'r her rwy'n ei chyflwyno. Rwy'n cymryd rhan weithredol ym mhopeth a wnaf, gan ddod ag egni, difyrrwch, gwreiddioldeb a hyd yn oed adegau o ysbrydoliaeth. Gyda ffocws ar feithrin gwir newid, rwy'n sicrhau bod pobl yn gadael fy sgyrsiau/sesiynau gydag offer a thechnegau ymarferol i'w cymhwyso. Fel Cymro Cymraeg, gallaf ddarparu hyn i gyd yn Gymraeg neu Saesneg.
Ar ôl bod yn gweithio fel cyfreithiwr a chyfarwyddwr strategol mewn nifer o sefydliadau mawr, rwy'n deall cymhlethdodau a heriau arweinyddiaeth effeithiol. Mae'r gwaith o reoli'r ddarpariaeth o sawl gwasanaeth cyhoeddus proffil uchel wedi rhoi gwybodaeth draws-sector, ymarferol o arfer da cyfredol i mi. Mae'r profiad a'r ddealltwriaeth hon yn fy nghaniatáu i ddarparu datrysiadau pragmatig ar gyfer sefydliadau, timau ac unigolion.
Mae gennyf achrediad ILM Lefel 7 mewn Mentora a Hyfforddi Gweithredol a Thystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Uwch gan fy mod yn gweithio gyda sawl prifysgol fel Darlithydd/Tiwtor Gwadd ar gyrsiau datblygu arweinyddiaeth. Mae gennyf MBA a Doethuriaeth mewn gwleidyddiaeth. Yn ogystal, mae gennyf radd yn y gyfraith a bûm yn gyfreithiwr am dros 20 mlynedd. Nid wyf yn trin y gyfraith bellach ond rwy'n parhau i fod yn aelod o Gymdeithas y Cyfreithwyr.
E-bost plw@lwaa.co.uk • Ffôn 07973 676 176
Twitter @LloydWilliamsAA
RHANNWCH Y DUDALEN HON AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Tweet Facebook LinkedIn